Special
Proses naturiol fiolegol ywr cam cyntaf yn y bragu lle maer grawn haidd lleithog goraun cael ei drawsnewid i frag. Achosir newidiadau mewnol yn y grawn syn trawsnewid y startsh anhydawdd, yn startsh hydawdd er mwyn y cam nesaf. Atelir y newidiad drwy sychur grawn (a elwir yn awr yn frag-gwyrdd) mewn odyn, ai drin syn rhoir lliw ar blas iddo.

Yn y bragdy, cymysgir y brag mathredig gyda dŵr poeth mewn cynhwysydd a elwir yn gerwyn frag. Yma maer ensymau yn y brag yn trawsnewid y startsh i siwgr. Mewn cerwyn frag ceir gwaelod ffug agennog, syn fodd i wahanur grawn oddi wrth yr hylif, syn rhedeg i mewn ir cynhwysydd nesaf, y copor.

Yna chwistrellir y gwirod poeth dros y gymysgfa er mwyn echdynnur maeth allan or grawn. Cam nesaf yw ei ferwi gydag ychwanegiadau pellach o hopys ar wahanol amseroedd er mwyn cael y chwerwedd, y blas ar arogl cywir.

Yna oerir y gymysgfan gyflym cyn ychwanegur burum. Maer siwgr yn y cynhwysydd yn dechrau eplesu a thrawsnewid yn alcohol a charbon deuocsid.

Ar ôl wythnos, maer cwrw gwyrdd yn cael ei drosglwyddo i danc wedi ei selio. Gadewir y gwaddod a allai ddifethar cwrw ar y gwaelod. Maer cwrwn aeddfedu ac yn cael ei gyflyru am wythnos, cyn ei roi mewn casgenni, ai ddanfon ir dafarn. Yma ychwanegir gronynnau mân i helpu i glirior cwrw, seilir y gasgen ai gadael am ddyddiau iw gyflyru.

Bryn Contact Details
Created by Aber iT Aberystwyth Tel:07976 508860
BRYN support sensible drinking and is a member of www.drinkaware.co.uk
Mae BRYN yn cefnogi yfed call ac maent yn aelod o www.drinkaware.co.uk