Defnyddir y deunyddiau crai gorau i fragur cwrw. Gan fod 90% or cwrw'n ddŵr, hidlir y dŵr i gael gwared ag amhureddau ac fei profir yn rheolaidd am ei gynnwys mineralaidd.

Dim ond brag golau Maris Otter, yr haidd bragu gorau sydd ar gael mewn unrhyw le a ddefnyddir. Dim ond y brag hwn all roir blas boddhaol i ni. Defnyddir brag arbennig megis crisial, gwenith a Munich, ynghyd â haidd wedi ei rostio i roi lliw, blas a chryfhaur cwrw.

Dewiswn yr hopys gorau ar draws y byd. Mewnforir Styrian Goldings o Slovenia, tra bod Goldings yn dod o siroedd Henffordd a Chaerwrangon. Daw'r Cascade, a ddefnyddir yn yr Herald, o ymyl y Môr Tawel, gogledd-orllewin, yr UDA. Drwy hyn sicrheir mai dim ond y math dewisol fydd yn ein cwrw.

Wrth gwrs, un or elfennau pwysicaf ywr burum. Aethom i gryn drafferth i sicrhau bod y burum a ddefnyddiwn yn rhoi i nir cydbwysedd iawn o flasau. Fei dadansoddir yn ficrobiolegol yn gyson, a chyflwynir meithriniadau newydd yn rheolaidd ir bragdy er mwyn cadwr ansawdd.

Bryn Contact Details
Created by Aber iT Aberystwyth Tel:07976 508860
BRYN support sensible drinking and is a member of www.drinkaware.co.uk
Mae BRYN yn cefnogi yfed call ac maent yn aelod o www.drinkaware.co.uk